Tywyll, niwlog ac oer. Dyna sut mae Gwlad Belg wastad yn fy meddwl i. Mae’n dod o’r tro y glaniais ym Mrwsel a’r peilot yn dweud rhybeth fel “2 degrees and foggy. It’s a pleasant evening in Brussels”. Wedyn cerddais i mewn i’r terminal i swn Jacques Brel yn canu Plat Pays . . .
“Gouden Carolus” yw Cwrw Mechelen, yn dod mewn tri fath – Triple, Amber a Classic. Y tri yn ddigon derbyniol os bach yn felys. Mae rhaid bod yn ofalus rhag cael gormod wrth gwrs gyda’r tri yn wyth y cant o alcohol. Roedd y bragdy drws nesaf i’m gwesty ond dim llawer o amswer i flasu yn anffodus.
Bwyd cyfoethog sydd i gael ym mwytai Mechelen gyda cig a saws yn arwain pob pryd. Den Beer yn ddewis da os y’ch chi’n digwydd bod yn y dre. Ar y Grote Markt ger yr eglwys Cadeiriol.
Leave a Reply