Author: [email protected]

  • Pleidleisio Tactegol

    Roedd fy nhad yn cwyno yn ddiweddar fod e wedi gwastraffu bob pleidlais mae erioed wedi gwneud. Hynny trwy fod yn ryddfrydwr yn Abertawe Llafurol am y rhan fwyaf o’i fywyd a nawr trwy fyw yn sedd ceidwadol hynod o saff.

    Ymddengys bod y Rhyddfrydwyr yn saff ym Mrycheiniog a Maesyfed y tro hwn eto. Nid oes pwysau arnaf i fotio yn tactegol felly. Caiff Janet Davies fy mhleidlais a gobeithio y byddwn ni’n cadw ein hernes.

  • Angel Preseli

    Angel Preseli 2010.

    Sportivo ysblenydd yn y gorllewin wedi trefnu gan Velo Teifi. Dowrnod heulog os braidd yn wyntog. Dim yn amser da ganddo fi ond llwyddais i gwpla’r cwrs.

  • Kernow

    Buom ar bythefnos o wyliau yn Nghernyw. Ymlaciol er gwaethaf tywydd diflas a dweud y lleiaf.

    O leiaf tra bues i yna r’oedd siawns i flasu’r arlwy mewn cwpl o dai bwyta lleol.

    Yn gyntaf yr Horn of Plenty. Gwesty lled foethus sydd, i fod yn gywir, dros y ffin yn Nyfnaint yn hytrach nag yn Nghernyw. Cawsom bwyd da iawn yn eistedd o flaen ffenest enfawr gyda golwg arbennig o gwm y Tamar. Unig cwyn oedd bod hi braidd yn ddrud gyda nhw yn siarsio am y plant yn ogystal a’r oedolion. Hynny a’r rhestr gwin byr ac anniddorol.

    Ail. Langmans yn nhref Callington. Menu Fixe o chwech pryd oedd man hyn. Popeth yn ardderchog ond yn araf iawn iawn. Cyrhaeddom marciau 7:30pm and dim gadael nes hanner awr wedi hanner nos.

    Trydedd. Lynda’s Bistro ym mhentref Gunnislake. Ymgais da iawn i gael awyrgylch traddodiadol gyda lliain check ar bob bwrdd. Bwyd weddol o blaen ond o ansawdd da iawn.

    Mewn gwirionedd mae pob un gwerth ymweliad

  • Cwrw Coch

    Ymweliad sydyn a Brwsel. Heb gael fawr o amser i ymlacio (neu dim amser o gwbl i fod yn gywir). Bwyd Eidaleidd werth ei gael yn Massimiliano, Rue Sainte Anne.  Carpaccio tiede de poulpe arbennig a digon a Vino Nobile de Montepulciano i fynd gyda fe (er na nodais cynhyrchwr y gwin).

    Fell er bod yr haul yn gwenu trwy gydol y daith dim ond Rodenbach tawel hwyr ym mar y gwesty lwyddais i’w flasu o holl ogoniant cwrw Belg.

  • Siomedigaeth

    Heb flogio am berfformiad Van Morrison yng Nghanolfan y Mileniwm eto. A hynny am reswm syml – mod i’n hynod siomedig a’r holl achlysur. Gormod o’r “muso” gan Van a’i fand i fi o lawer gyda phob un can yn dioddef o solos estynedig. Dewis diflas o ganeuon, o ystyried y gatalog sy gyda fe, ac – fel sy’n arferol gyda fe efallai – bron ag anwybyddu’r gynulleidfa.

    Yn ogystal,  gan fod ein tocynnau ni yn rhai reit uchel yn Theatr Donald Gordon,  roedd hi’n dwym uffernol ac roedd y seddi yn anghyfforddus tu hwnt.

    Basai wedi bod yn well gwario fy £45 dros un o’r bars yn Atlantic Wharf gyfagos.

    Uchelbwynt y noson oedd y Dim Sum a’r Daquiri yn Ba Orient. Doedd y rheina ddim yn arbennig ond ro’n nhw’n well na Van. Fel ffan ers o’n i yn y brifysgol rwy’n dal yn ddiflas wrth feddwl amdano fe.

  • Heulwen Hwyr Mehefin

    Glantawe o'r Cribarth

    Prynhawn o heulwen Mehefin. Ychydig o amser i ddringo mynyddoedd o amgylch

  • Ideological cuddle

    Wedi bod yn pendroni ynghylch hwn a hwn. Rhyw fath o ddadl rhwng tactecau ac ideoleg ydyw mewn gwirionedd i mi. Efallai taw gwanhau’r Plaid Llafur,  ein gelynion ymarferol,   cyntaf a wedyn troi a cheisio maeddu gelynion ideolegol yw’r ffordd iawn i’r Blaid ond y risg o rhoi mewn i’r Toriaid a gwaethaf efallai yn ormod. Atgyfnerthwyd hyn gan trip i’r gorffenol Nos Fawrth, yn atgoffa dyn bod egwyddorion pwysicaf hyd yn oed na theyrngarwch plaid.

    Doeddwn i ddiwm yn gwybod bod 300 o bobl sy’n gwybod i gyd o’r geiriau o 2 albwm cyntaf Billy Bragg i gael yng Nghwmtawe ar Nos Fawrth. Ond ymddengys bod. Cynrchiolaeth o lefties dosbarth canol, canol oed. Problem ail-ymweld ag arwyr o oedran 17 yw’r tueddiad i edrych ar dy hunan yn llygad 17 a dim cweit yn hoffi beth wyt ti’n gweld.

    Ond mae’n dal yn bleser o’r radd blaenaf gweld Billy Bragg yn perfformio. Un o gynrychiolwyr olaf yr aesthetic pync gwreiddiol.  Wrth wylio dyw e ddim yn fater o feddwl y gallwch fod cystal canwr ond yn gwybod hynny.

    Er gwaethaf hynny fyddwn i byth yn honni yn gallwn dod a’r un huotledd i’r llwyfan ag y mae Billy. A gyda fe wedi ysgrfennu llyfyr yn ymateb i ethol 12 cynghorwyr BNP yn Barking, roedd ethol dwy ASE BNP wedi sbarduno angerdd yn y perfformiwr ac yn y gynulleidfa dros sefyll yn erbyn fasgaeth, hiliaeth ac eithafiaeth erchyll.

    Wrth sefyll o flaen baner lodge NUM Abercraf roedd Billy yn preaching to the converted efallai ond byddai rhai bregethwyr o fri heb wneud cystal.

  • Which Side Are You On? Rhan 2

    Wedi bod yn meddwl am y post diwethaf.  Os taw dim ond dwy ochr sydd,  dywedwn y reddfol taw ar yr un ochr a Gordon Brown ydw i. Dyw e ddim yr un peth a Cameron a Boris Johnson a’r gweddill. Ry’n ni ar amser peryglus.

  • Which Side Are You On?

    Mae taith coffa Streic y Glowyr Billy Bragg yn dechrau heno ym Mlaenavon. Mae tocyn gyda fi i’w weld ym Mhontardawe Nos Fawrth. Ac mae’n dod ag atgofion yn ol gan i mi ei weld yng Nghanolfan Hamdden Penyrheol 25 mlynedd yn ol gyda’r 3 Johns a rhyw gor meibion ar ei daith i gefnogi’r glowyr.

    Buodd Billy yn canu “Which Side Are You On” ym 1987. A dau ochr oedd ar y pryd. Roeddech chi neill ai gyda Thatcher a’i chriw neu ro’ch chi yn eu herbyn.  Ers hynny mae pethau wedi newid ac erbyn hyn fydda i ddim yn meddwl yn nhermau y ddwy ochr fel y buon ni pryd ‘ny. Fel Pleidiwr r’wy yn erbyn y llywodraeth heb fod gyda’r Toris.  Ond mae trafferthion presennol Gordon Brown a’r Plaid Llafur yn fy ngorfodi i feddwl sut y bydd pethau os (neu pan) y daw y Toriaid ‘nol i rym yn San Steffan. Torriadau, rhwygo cymunedau a chasineb fydd hi a bydd rhaid dod i hyd i ffordd i’n hamddifyn ein hunain

    Which Side Are We On Boys?

  • Colchester, Stour Valley ac Arfordir Suffolk

    Mae’r ardal hon yn brydferth, yn ymlaciol ac yn werth ymweld a hi. Rwy wedi treulio cryn dipyn o amser yna gan fod gyda fi deulu agos sy’n byw ‘na.  Ond er gwaetha’r ffeithiau ‘na mae’n dal i deimlo yn estron iawn. Peth a ategwyd ati hi dros y penwythnos gan y tywydd braf (gwahanol i dywydd diweddar Cwmtawe).

    Mae’n anodd gwybod yn union pam ei bod hi mor wahanol ond mae’r teimlad gyda fi ers i mi ddechrau mynd yna. Efallai y ffaith taw hon oedd un o’r ardaloeed cyntaf i gael ei “Eingl-Seicsoneddio”.  Efallai y tirwedd lled fflat. Does dim modd gwybod ond rwy’n teimlo yn llawer fwy cartrefol yn Ne Ffrainc neu yng Ngogledd Lloegr nac yn Essex neu Suffolk.

    Dydd Gwener ymweliad a Pinmill. Bwyta brechdanau tu fas a wedyn peint bach slei yn y Butt and Oyster. Tafarn glanmor llawn cymeriad gyda llawr flagstones a cwrw mewn casgenni tu ol i’r bar. Roedd yr arogl pysgod a sglodion tu fewn yn tynnu dwr o’r dannedd. Bu bron i ni ail-fwyta.

    Bwyta yn y White Hart, West Bergholt ar Nos Sadwrn.  Roedd y lle yn ddymunol iawn yn heulwen hwyr y prynhawn ond yn bwyd yn weddol ddi-fflach. Roedd y cwrw Adnams yn llawer fwy derbyniol.