Author: [email protected]

  • Darllen Diweddar

    Watchmen gan Alan Moore – Clasur o gomic sydd newydd ei wenud yn ffilm. Lled siomedig gyda fe mewn gwirionedd. Y rhythm a’r cystrawen yn hynod, y cymeriadau yn gymleth ond y plot bach yn chwerthinllyd ar ol yr holl amser.

    The Presence ac Ash on a Young Man’s Sleeve gan Dannie Abse – Siom ar yr ochr orau gyda’r ddwy hyn. Cymysgedd hynod o’r dwys a’r digrif a’r Presence yn arbennig yn gwau barddoniaeth (nid dim ond gan Abse) mewn yn hynod effeithiol.

  • Treuliau

    O’r diwedd ymddengys bod pall ar yr holl stwr am dreuliau gwleidyddion (aelodau seneddol yn bennaf).  Rhaid dweud taw cyfuniad o naifdra anhygoel ar ran rhai gwleidyddion, talp o farusrwydd gan ychydig o rai eraill a phryd go helaeth o falis ar ran newyddiadurwyr sy’n gyfrifol.

    O’m rhan i ymddengys buasai rhaid cael toriad yn fy nghfylog os o’n i am fod yn aelod seneddol ac un fwy os am fod yn aelod cynulliad. O ystyried fy nghfyrifoldebau presennol yn erbyn rhai ein gwleidyddion,  does dim synnwyr yn hynny. Felly os oes angen gwella y sefyllfa torcalonnus presennol a gadael i Gymru a’r DU fynd ymlaen fel gwledydd lled ddemoctrataidd yr unid ateb yw dwblu cyflog pob AS ac AC. Ond pwy sy’n ddigon dewr ag i fynd a’r awgrym hynny mewn i etholiad?

  • Atgyfodi

    Amser atgyfodi hyn o flog. Gawn weld faint mor lwyddianus all fod y tro hyn

  • Gwlad Belg

    Tywyll, niwlog ac oer. Dyna sut mae Gwlad Belg wastad yn fy meddwl i. Mae’n dod o’r tro y glaniais ym Mrwsel a’r peilot yn dweud rhybeth fel “2 degrees and foggy. It’s a pleasant evening in Brussels”. Wedyn cerddais i mewn i’r terminal i swn Jacques Brel yn canu Plat Pays . . .

    “Gouden Carolus” yw Cwrw Mechelen, yn dod mewn tri fath – Triple, Amber a Classic. Y tri yn ddigon derbyniol os bach yn felys. Mae rhaid bod yn ofalus rhag cael gormod wrth gwrs gyda’r tri yn wyth y cant o alcohol. Roedd y bragdy drws nesaf i’m gwesty ond dim llawer o amswer i flasu yn anffodus.

     Bwyd cyfoethog sydd i gael ym mwytai Mechelen gyda cig a saws yn arwain pob pryd. Den Beer yn ddewis da os y’ch chi’n digwydd bod yn y dre. Ar y Grote Markt ger yr eglwys Cadeiriol.

     

  • Telford ac Ironbridge

    Ymweliad byr a Telford a swper yn Ironbridge. Roedd y taith o Lanyrafon dros y Bannau eiraog yn bleserus

    Mae rhaid taw Telford sy ag un or gwrthgyferbyniadau mwyaf yn Lloegr rhwng “New Town” diflas a chwbl ddi-gymeriad a’r ardaloedd gwledig prydferth sy’n ei amgylchynu.

    Ni welais lawer o Ironbridge achos bod hi’n dywyll pan gyrhaeddais i. Swper digon cyffredin.

    Niwl a glaw a gafwyd drannoeth. Wedi blino yn lan erbyn cyraedd adref.

  • Opsiynau

    Newydd sylweddoli bod y gwir rheswn pam bod dyn yn gweithio yn galed ar ei “yrfa” yw i roi cymaint o opsiynau ag sy’n bosib i’w deulu. Hynny a rhywfaint o hunan boddhad wrth gwrs. Rwy’n ffaelu credu bod pobl yn wir gweithio am yr arian.

    Mae hynny yn swnio fel agweddau New Labour ar “choice” ond mae’n rhywbeth gwahanol mewn gwirionedd. Dewis rhwng sawl ysgol bell i ffwrdd a ma’s o’ch cymuned mae Llafur yn cynnig neu rwng aros ar restr aros neu deithio i Ffrainc am driniaeth. Yr opsiynau i’m plant dylai fod ym mhwy wlad maen nhw’n moy’n byw ac ym mhwy iaith maen nhw’n moyn gweithio. Opsiynau ar sut fath o fywyd maen nhw wir eisiau.

  • Dechreuad

    Pwrpas y blog hwn yw i gadw myfyrdodau a meddyliau ar bethau, llefydd a phobol rwy’d dod ar eu traws. At fy sylw i yn bersonol yw e yn bennaf ond os yw e o ddiddordeb i eraill gorau i gyd.