Category: Bwyd a Diod

  • Cwrw Coch

    Ymweliad sydyn a Brwsel. Heb gael fawr o amser i ymlacio (neu dim amser o gwbl i fod yn gywir). Bwyd Eidaleidd werth ei gael yn Massimiliano, Rue Sainte Anne.  Carpaccio tiede de poulpe arbennig a digon a Vino Nobile de Montepulciano i fynd gyda fe (er na nodais cynhyrchwr y gwin).

    Fell er bod yr haul yn gwenu trwy gydol y daith dim ond Rodenbach tawel hwyr ym mar y gwesty lwyddais i’w flasu o holl ogoniant cwrw Belg.

  • Colchester, Stour Valley ac Arfordir Suffolk

    Mae’r ardal hon yn brydferth, yn ymlaciol ac yn werth ymweld a hi. Rwy wedi treulio cryn dipyn o amser yna gan fod gyda fi deulu agos sy’n byw ‘na.  Ond er gwaetha’r ffeithiau ‘na mae’n dal i deimlo yn estron iawn. Peth a ategwyd ati hi dros y penwythnos gan y tywydd braf (gwahanol i dywydd diweddar Cwmtawe).

    Mae’n anodd gwybod yn union pam ei bod hi mor wahanol ond mae’r teimlad gyda fi ers i mi ddechrau mynd yna. Efallai y ffaith taw hon oedd un o’r ardaloeed cyntaf i gael ei “Eingl-Seicsoneddio”.  Efallai y tirwedd lled fflat. Does dim modd gwybod ond rwy’n teimlo yn llawer fwy cartrefol yn Ne Ffrainc neu yng Ngogledd Lloegr nac yn Essex neu Suffolk.

    Dydd Gwener ymweliad a Pinmill. Bwyta brechdanau tu fas a wedyn peint bach slei yn y Butt and Oyster. Tafarn glanmor llawn cymeriad gyda llawr flagstones a cwrw mewn casgenni tu ol i’r bar. Roedd yr arogl pysgod a sglodion tu fewn yn tynnu dwr o’r dannedd. Bu bron i ni ail-fwyta.

    Bwyta yn y White Hart, West Bergholt ar Nos Sadwrn.  Roedd y lle yn ddymunol iawn yn heulwen hwyr y prynhawn ond yn bwyd yn weddol ddi-fflach. Roedd y cwrw Adnams yn llawer fwy derbyniol.