Heb flogio am berfformiad Van Morrison yng Nghanolfan y Mileniwm eto. A hynny am reswm syml – mod i’n hynod siomedig a’r holl achlysur. Gormod o’r “muso” gan Van a’i fand i fi o lawer gyda phob un can yn dioddef o solos estynedig. Dewis diflas o ganeuon, o ystyried y gatalog sy gyda fe, ac – fel sy’n arferol gyda fe efallai – bron ag anwybyddu’r gynulleidfa.
Yn ogystal, gan fod ein tocynnau ni yn rhai reit uchel yn Theatr Donald Gordon, roedd hi’n dwym uffernol ac roedd y seddi yn anghyfforddus tu hwnt.
Basai wedi bod yn well gwario fy £45 dros un o’r bars yn Atlantic Wharf gyfagos.
Uchelbwynt y noson oedd y Dim Sum a’r Daquiri yn Ba Orient. Doedd y rheina ddim yn arbennig ond ro’n nhw’n well na Van. Fel ffan ers o’n i yn y brifysgol rwy’n dal yn ddiflas wrth feddwl amdano fe.