Category: Gwleidyddiaeth

  • Pleidleisio Tactegol

    Roedd fy nhad yn cwyno yn ddiweddar fod e wedi gwastraffu bob pleidlais mae erioed wedi gwneud. Hynny trwy fod yn ryddfrydwr yn Abertawe Llafurol am y rhan fwyaf o’i fywyd a nawr trwy fyw yn sedd ceidwadol hynod o saff.

    Ymddengys bod y Rhyddfrydwyr yn saff ym Mrycheiniog a Maesyfed y tro hwn eto. Nid oes pwysau arnaf i fotio yn tactegol felly. Caiff Janet Davies fy mhleidlais a gobeithio y byddwn ni’n cadw ein hernes.

  • Ideological cuddle

    Wedi bod yn pendroni ynghylch hwn a hwn. Rhyw fath o ddadl rhwng tactecau ac ideoleg ydyw mewn gwirionedd i mi. Efallai taw gwanhau’r Plaid Llafur,  ein gelynion ymarferol,   cyntaf a wedyn troi a cheisio maeddu gelynion ideolegol yw’r ffordd iawn i’r Blaid ond y risg o rhoi mewn i’r Toriaid a gwaethaf efallai yn ormod. Atgyfnerthwyd hyn gan trip i’r gorffenol Nos Fawrth, yn atgoffa dyn bod egwyddorion pwysicaf hyd yn oed na theyrngarwch plaid.

    Doeddwn i ddiwm yn gwybod bod 300 o bobl sy’n gwybod i gyd o’r geiriau o 2 albwm cyntaf Billy Bragg i gael yng Nghwmtawe ar Nos Fawrth. Ond ymddengys bod. Cynrchiolaeth o lefties dosbarth canol, canol oed. Problem ail-ymweld ag arwyr o oedran 17 yw’r tueddiad i edrych ar dy hunan yn llygad 17 a dim cweit yn hoffi beth wyt ti’n gweld.

    Ond mae’n dal yn bleser o’r radd blaenaf gweld Billy Bragg yn perfformio. Un o gynrychiolwyr olaf yr aesthetic pync gwreiddiol.  Wrth wylio dyw e ddim yn fater o feddwl y gallwch fod cystal canwr ond yn gwybod hynny.

    Er gwaethaf hynny fyddwn i byth yn honni yn gallwn dod a’r un huotledd i’r llwyfan ag y mae Billy. A gyda fe wedi ysgrfennu llyfyr yn ymateb i ethol 12 cynghorwyr BNP yn Barking, roedd ethol dwy ASE BNP wedi sbarduno angerdd yn y perfformiwr ac yn y gynulleidfa dros sefyll yn erbyn fasgaeth, hiliaeth ac eithafiaeth erchyll.

    Wrth sefyll o flaen baner lodge NUM Abercraf roedd Billy yn preaching to the converted efallai ond byddai rhai bregethwyr o fri heb wneud cystal.

  • Which Side Are You On?

    Mae taith coffa Streic y Glowyr Billy Bragg yn dechrau heno ym Mlaenavon. Mae tocyn gyda fi i’w weld ym Mhontardawe Nos Fawrth. Ac mae’n dod ag atgofion yn ol gan i mi ei weld yng Nghanolfan Hamdden Penyrheol 25 mlynedd yn ol gyda’r 3 Johns a rhyw gor meibion ar ei daith i gefnogi’r glowyr.

    Buodd Billy yn canu “Which Side Are You On” ym 1987. A dau ochr oedd ar y pryd. Roeddech chi neill ai gyda Thatcher a’i chriw neu ro’ch chi yn eu herbyn.  Ers hynny mae pethau wedi newid ac erbyn hyn fydda i ddim yn meddwl yn nhermau y ddwy ochr fel y buon ni pryd ‘ny. Fel Pleidiwr r’wy yn erbyn y llywodraeth heb fod gyda’r Toris.  Ond mae trafferthion presennol Gordon Brown a’r Plaid Llafur yn fy ngorfodi i feddwl sut y bydd pethau os (neu pan) y daw y Toriaid ‘nol i rym yn San Steffan. Torriadau, rhwygo cymunedau a chasineb fydd hi a bydd rhaid dod i hyd i ffordd i’n hamddifyn ein hunain

    Which Side Are We On Boys?

  • Treuliau

    O’r diwedd ymddengys bod pall ar yr holl stwr am dreuliau gwleidyddion (aelodau seneddol yn bennaf).  Rhaid dweud taw cyfuniad o naifdra anhygoel ar ran rhai gwleidyddion, talp o farusrwydd gan ychydig o rai eraill a phryd go helaeth o falis ar ran newyddiadurwyr sy’n gyfrifol.

    O’m rhan i ymddengys buasai rhaid cael toriad yn fy nghfylog os o’n i am fod yn aelod seneddol ac un fwy os am fod yn aelod cynulliad. O ystyried fy nghfyrifoldebau presennol yn erbyn rhai ein gwleidyddion,  does dim synnwyr yn hynny. Felly os oes angen gwella y sefyllfa torcalonnus presennol a gadael i Gymru a’r DU fynd ymlaen fel gwledydd lled ddemoctrataidd yr unid ateb yw dwblu cyflog pob AS ac AC. Ond pwy sy’n ddigon dewr ag i fynd a’r awgrym hynny mewn i etholiad?