Mae’r ardal hon yn brydferth, yn ymlaciol ac yn werth ymweld a hi. Rwy wedi treulio cryn dipyn o amser yna gan fod gyda fi deulu agos sy’n byw ‘na. Ond er gwaetha’r ffeithiau ‘na mae’n dal i deimlo yn estron iawn. Peth a ategwyd ati hi dros y penwythnos gan y tywydd braf (gwahanol i dywydd diweddar Cwmtawe).
Mae’n anodd gwybod yn union pam ei bod hi mor wahanol ond mae’r teimlad gyda fi ers i mi ddechrau mynd yna. Efallai y ffaith taw hon oedd un o’r ardaloeed cyntaf i gael ei “Eingl-Seicsoneddio”. Efallai y tirwedd lled fflat. Does dim modd gwybod ond rwy’n teimlo yn llawer fwy cartrefol yn Ne Ffrainc neu yng Ngogledd Lloegr nac yn Essex neu Suffolk.
Dydd Gwener ymweliad a Pinmill. Bwyta brechdanau tu fas a wedyn peint bach slei yn y Butt and Oyster. Tafarn glanmor llawn cymeriad gyda llawr flagstones a cwrw mewn casgenni tu ol i’r bar. Roedd yr arogl pysgod a sglodion tu fewn yn tynnu dwr o’r dannedd. Bu bron i ni ail-fwyta.
Bwyta yn y White Hart, West Bergholt ar Nos Sadwrn. Roedd y lle yn ddymunol iawn yn heulwen hwyr y prynhawn ond yn bwyd yn weddol ddi-fflach. Roedd y cwrw Adnams yn llawer fwy derbyniol.