Ideological cuddle

Wedi bod yn pendroni ynghylch hwn a hwn. Rhyw fath o ddadl rhwng tactecau ac ideoleg ydyw mewn gwirionedd i mi. Efallai taw gwanhau’r Plaid Llafur,  ein gelynion ymarferol,   cyntaf a wedyn troi a cheisio maeddu gelynion ideolegol yw’r ffordd iawn i’r Blaid ond y risg o rhoi mewn i’r Toriaid a gwaethaf efallai yn ormod. Atgyfnerthwyd hyn gan trip i’r gorffenol Nos Fawrth, yn atgoffa dyn bod egwyddorion pwysicaf hyd yn oed na theyrngarwch plaid.

Doeddwn i ddiwm yn gwybod bod 300 o bobl sy’n gwybod i gyd o’r geiriau o 2 albwm cyntaf Billy Bragg i gael yng Nghwmtawe ar Nos Fawrth. Ond ymddengys bod. Cynrchiolaeth o lefties dosbarth canol, canol oed. Problem ail-ymweld ag arwyr o oedran 17 yw’r tueddiad i edrych ar dy hunan yn llygad 17 a dim cweit yn hoffi beth wyt ti’n gweld.

Ond mae’n dal yn bleser o’r radd blaenaf gweld Billy Bragg yn perfformio. Un o gynrychiolwyr olaf yr aesthetic pync gwreiddiol.  Wrth wylio dyw e ddim yn fater o feddwl y gallwch fod cystal canwr ond yn gwybod hynny.

Er gwaethaf hynny fyddwn i byth yn honni yn gallwn dod a’r un huotledd i’r llwyfan ag y mae Billy. A gyda fe wedi ysgrfennu llyfyr yn ymateb i ethol 12 cynghorwyr BNP yn Barking, roedd ethol dwy ASE BNP wedi sbarduno angerdd yn y perfformiwr ac yn y gynulleidfa dros sefyll yn erbyn fasgaeth, hiliaeth ac eithafiaeth erchyll.

Wrth sefyll o flaen baner lodge NUM Abercraf roedd Billy yn preaching to the converted efallai ond byddai rhai bregethwyr o fri heb wneud cystal.

Comments

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *