Newydd sylweddoli bod y gwir rheswn pam bod dyn yn gweithio yn galed ar ei “yrfa” yw i roi cymaint o opsiynau ag sy’n bosib i’w deulu. Hynny a rhywfaint o hunan boddhad wrth gwrs. Rwy’n ffaelu credu bod pobl yn wir gweithio am yr arian.
Mae hynny yn swnio fel agweddau New Labour ar “choice” ond mae’n rhywbeth gwahanol mewn gwirionedd. Dewis rhwng sawl ysgol bell i ffwrdd a ma’s o’ch cymuned mae Llafur yn cynnig neu rwng aros ar restr aros neu deithio i Ffrainc am driniaeth. Yr opsiynau i’m plant dylai fod ym mhwy wlad maen nhw’n moy’n byw ac ym mhwy iaith maen nhw’n moyn gweithio. Opsiynau ar sut fath o fywyd maen nhw wir eisiau.
Leave a Reply