O’r diwedd ymddengys bod pall ar yr holl stwr am dreuliau gwleidyddion (aelodau seneddol yn bennaf). Rhaid dweud taw cyfuniad o naifdra anhygoel ar ran rhai gwleidyddion, talp o farusrwydd gan ychydig o rai eraill a phryd go helaeth o falis ar ran newyddiadurwyr sy’n gyfrifol.
O’m rhan i ymddengys buasai rhaid cael toriad yn fy nghfylog os o’n i am fod yn aelod seneddol ac un fwy os am fod yn aelod cynulliad. O ystyried fy nghfyrifoldebau presennol yn erbyn rhai ein gwleidyddion, does dim synnwyr yn hynny. Felly os oes angen gwella y sefyllfa torcalonnus presennol a gadael i Gymru a’r DU fynd ymlaen fel gwledydd lled ddemoctrataidd yr unid ateb yw dwblu cyflog pob AS ac AC. Ond pwy sy’n ddigon dewr ag i fynd a’r awgrym hynny mewn i etholiad?