Mae taith coffa Streic y Glowyr Billy Bragg yn dechrau heno ym Mlaenavon. Mae tocyn gyda fi i’w weld ym Mhontardawe Nos Fawrth. Ac mae’n dod ag atgofion yn ol gan i mi ei weld yng Nghanolfan Hamdden Penyrheol 25 mlynedd yn ol gyda’r 3 Johns a rhyw gor meibion ar ei daith i gefnogi’r glowyr.
Buodd Billy yn canu “Which Side Are You On” ym 1987. A dau ochr oedd ar y pryd. Roeddech chi neill ai gyda Thatcher a’i chriw neu ro’ch chi yn eu herbyn. Ers hynny mae pethau wedi newid ac erbyn hyn fydda i ddim yn meddwl yn nhermau y ddwy ochr fel y buon ni pryd ‘ny. Fel Pleidiwr r’wy yn erbyn y llywodraeth heb fod gyda’r Toris. Ond mae trafferthion presennol Gordon Brown a’r Plaid Llafur yn fy ngorfodi i feddwl sut y bydd pethau os (neu pan) y daw y Toriaid ‘nol i rym yn San Steffan. Torriadau, rhwygo cymunedau a chasineb fydd hi a bydd rhaid dod i hyd i ffordd i’n hamddifyn ein hunain
Which Side Are We On Boys?
Leave a Reply